RHAN 4DARPARU GWYBODAETH I’R CYHOEDD AM LETY YMWELWYR
Hysbysebu a marchnata etc.
44Troseddau sy’n ymwneud â hysbysebu a marchnata etc. llety ymwelwyr
(1)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn adran 43(1).
(2)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn adran 43(3).
(3)
Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) os oes gan y person hwnnw esgus rhesymol dros y methiant i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(4)
Heb gyfyngu ar gyffredinolrwydd is-adran (3), mae gan berson (“P”) esgus rhesymol—
(a)
os cymerodd P bob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw;
(b)
os nad oedd P yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, nad oedd P yn cydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(5)
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(6)
Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan is-adrannau (1) a (2), mae person yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny, ond ni all gael ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.