RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 3LLETY YMWELWYR RHEOLEIDDIEDIG: TELERAU CONTRACT

Cyfyngiadau ar y rhwymedigaeth i sicrhau bod mangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr

41Cyfyngiadau ar y ddyletswydd ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: gwybodaeth DLlY

(1)

Nid yw DLlY wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan adran 39(2)—

(a)

os nad yw’r DLlY yn ymwybodol, a

(b)

os na ellid disgwyl yn rhesymol i’r DLlY fod yn ymwybodol,

nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(2)

Nid yw DLlY wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan adran 39(2) os yw’r DLlY yn gwneud y fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr o fewn amser rhesymol ar ôl‍ i’r DLlY ddod yn ymwybodol, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol, nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(3)

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw hawlogaeth ymwelydd i breswylio yn y llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn dechrau ar adeg pan fo’r DLlY yn ymwybodol, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol, nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(4)

At ddibenion dyfarnu beth yw “amser rhesymol”, rhaid rhoi sylw i—

(a)

i ba raddau yr amherir ar fwynhad yr ymwelydd o’r fangre, a

(b)

a yw’n rhesymol ac yn bosibl cyflawni’r gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol cyn diwedd y cyfnod yn ystod yr hwn y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y fangre.