RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 3LLETY YMWELWYR RHEOLEIDDIEDIG: TELERAU CONTRACT

Cyfyngiadau ar y rhwymedigaeth i sicrhau bod mangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr

40Cyfyngiadau ar y ddyletswydd ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: bai ymwelydd

(1)

Nid yw adran 39 yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y DLlY os nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anweithred (gan gynnwys gweithred neu anweithred sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran yr ymwelydd.

(2)

Nid yw’n ofynnol gan adran 39(2) i’r DLlY gyflawni gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r cyflwr gwael yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran yr ymwelydd.

(3)

Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

(a)

am y fangre, a

(b)

os yw’r fangre yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i’w defnyddio o dan y contract llety ymwelwyr.