RHAN 2DATBLYGU TWRISTIAETH

4Diwygio deddfiadau ar dwristiaeth

(1)

Yn adran 1 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5), o flaen is-adran (1) mewnosoder—

“A1

Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith Cymru sy’n ymwneud â thwristiaeth.”

(2)

Mae Atodlen 1 yn diwygio Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51).

(3)

Mae Deddf Twristiaeth (Hybu Dramor) (Cymru) 1992 (p. 26) wedi ei diddymu.