RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 2TRWYDDEDU

Swyddogaethau eraill Gweinidogion Cymru

36Pwerau i rannu gwybodaeth

(1)

Caiff person a grybwyllir yn is-adran (3) ddatgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan‍ Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon neu o dan reoliadau a wneir o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth y maent yn ei dal mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan‍ neu yn rhinwedd y Bennod hon, Rhan 4 neu Bennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf hon i—

(a)

person a grybwyllir yn is-adran (3), pan fo’r wybodaeth yn cael ei datgelu at ddibenion swyddogaethau’r person hwnnw;

(b)

unrhyw berson (gan gynnwys person a grybwyllir yn is-adran (3)), at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan‍ neu yn rhinwedd y Bennod hon, Rhan 4 neu Bennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf hon.

(3)

Y personau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw—

(a)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)

awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(c)

ACC;

(d)

awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(e)

cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(f)

person a ddynodir yn awdurdod trwyddedu at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (rheoleiddio tai rhent preifat);

(g)

unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)

Nid yw datgelu gwybodaeth o dan yr adran hon yn torri—

(a)

unrhyw rwymedigaeth o ran cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n datgelu’r wybodaeth, na

(b)

unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).

(5)

Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(6)

Yn adran 18(1) (datgelu a ganiateir) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6)

(a)

hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (i);‍

(b)

ym mharagraff (k)(ii), yn lle “adran 2 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51)” rhodder “Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00)”.