RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR
PENNOD 2TRWYDDEDU
Swyddogaethau eraill Gweinidogion Cymru
35Ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau llety ymwelwyr
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn perthynas â chodi ffioedd mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon neu Bennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf hon.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymysg pethau eraill) ddarparu ar gyfer—
(a)
swm, neu uchafswm, ffi;
(b)
ffi, neu uchafswm ffi, i’w phennu neu ei bennu yn unol â rheoliadau;
(c)
ffioedd gwahanol mewn amgylchiadau gwahanol;
(d)
gostwng, hepgor neu ad-dalu ffioedd;
(e)
y dull y mae ffioedd i gael eu talu;
(f)
apelau yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â ffioedd;
(g)
ffi i gael ei hadennill yn ddiannod fel dyled sifil.
(3)
Cyn gwneud y rheoliadau cyntaf o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol a rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny ymateb.
(4)
Cyn gwneud yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.