RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR
PENNOD 2TRWYDDEDU
Swyddogaethau eraill Gweinidogion Cymru
34Dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas â thrwyddedu
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cofrestr o drwyddedau llety ymwelwyr.
(2)
O ran y gofrestr a sefydlir o dan is-adran (1)—
(a)
rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a nodir yn is-adran (3);
(b)
caiff gynnwys unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.
(3)
Rhaid i gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â thrwydded a roddir i DLlY o dan y Bennod hon gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)
enw’r DLlY;
(b)
unrhyw enw busnes a ddefnyddir gan y DLlY;
(c)
cyfeiriad busnes y DLlY;
(d)
y llety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef;
(e)
y fangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi;
(f)
y rhif cofrestru a ddyroddir gan ACC i’r DLlY mewn cysylltiad â’r fangre o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5);
(g)
y dyddiad y rhoddir y drwydded a, phan fo’n gymwys, y dyddiad y diwygir neu yr adnewyddir hi;
(h)
y dyddiad y bydd y drwydded yn dod i ben;
(i)
unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag—
(i)
y gofynion cymeradwyo;
(ii)
amodau’r drwydded,
y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r wybodaeth a gynhwysir mewn cofnod yn y gofrestr o dan is-adran (2)(a).
(5)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)
enw unigolyn, oni bai—
(i)
bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu
(ii)
bod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes DLlY;
(b)
cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn, oni bai—
(i)
bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu
(ii)
bod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre y mae DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2)(b); ond ni chânt gyhoeddi gwybodaeth o dan yr is-adran hon os gwaherddir hwy rhag cyhoeddi’r wybodaeth honno drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.
(7)
At ddibenion yr adran hon, “cyfeiriad busnes” partneriaeth, corff corfforedig neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa.