- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026, Adran 34 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cofrestr o drwyddedau llety ymwelwyr.
(2)O ran y gofrestr a sefydlir o dan is-adran (1)—
(a)rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a nodir yn is-adran (3);
(b)caiff gynnwys unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.
(3)Rhaid i gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â thrwydded a roddir i DLlY o dan y Bennod hon gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw’r DLlY;
(b)unrhyw enw busnes a ddefnyddir gan y DLlY;
(c)cyfeiriad busnes y DLlY;
(d)y llety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef;
(e)y fangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi;
(f)y rhif cofrestru a ddyroddir gan ACC i’r DLlY mewn cysylltiad â’r fangre o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5);
(g)y dyddiad y rhoddir y drwydded a, phan fo’n gymwys, y dyddiad y diwygir neu yr adnewyddir hi;
(h)y dyddiad y bydd y drwydded yn dod i ben;
(i)unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag—
(i)y gofynion cymeradwyo;
(ii)amodau’r drwydded,
y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r wybodaeth a gynhwysir mewn cofnod yn y gofrestr o dan is-adran (2)(a).
(5)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)enw unigolyn, oni bai—
(i)bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu
(ii)bod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes DLlY;
(b)cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn, oni bai—
(i)bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu
(ii)bod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre y mae DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2)(b); ond ni chânt gyhoeddi gwybodaeth o dan yr is-adran hon os gwaherddir hwy rhag cyhoeddi’r wybodaeth honno drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.
(7)At ddibenion yr adran hon, “cyfeiriad busnes” partneriaeth, corff corfforedig neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 34 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: