RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 2TRWYDDEDU

Troseddau

32Llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn mangre ddidrwydded: trosedd

(1)

Mae’n drosedd i berson ddarpar‍u llety ymwelwyr rheoleiddiedig, yng nghwrs masnach neu fusnes, mewn unrhyw fangre oni bai—

(a)

bod y person yn meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre sy’n ymwneud â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig;

(b)

pan na fo’r person yn meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre sy’n ymwneud â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig, fod y person yn darparu’r llety gyda chaniatâd person (“P”) sy’n meddu ar drwydded o’r fath (ni waeth a roddwyd y caniatâd hwnnw gan P neu gydag awdurdod P).

(2)

Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os oedd gan y person esgus rhesymol dros y weithred neu’r anweithred sy’n dod o fewn yr is-adran honno.

(3)

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.‍