RHAN 2DATBLYGU TWRISTIAETH
3Cod ymarfer ar dwristiaeth
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer sy’n darparu canllawiau ynghylch arferion gorau o ran darparu—
(a)
llety ymwelwyr, a
(b)
amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau eraill i dwristiaid yng Nghymru.
(2)
Caiff y cod ymarfer o dan is-adran (1), yn benodol, roi canllawiau ynghylch—
(a)
ansawdd mangreoedd a ddefnyddir i ddarparu llety ymwelwyr;
(b)
gwasanaeth i gwsmeriaid;
(c)
hysbysebu a marchnata;
(d)
hygyrchedd mangreoedd;
(e)
cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol eraill;
(f)
hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru;
(g)
unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig, neu
(b)
tynnu’r cod yn ôl os ydynt, wedi ymgynghori â sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru, yn ystyried nad yw’r cod o ddefnyddioldeb ymarferol mwyach.