RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 2TRWYDDEDU

Apelau

29Apelau trwyddedu

(1)

Caiff‍ person y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad iddo am benderfyniad a dan is-adran (2) apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i’r tribiwnlys.

(2)

Y penderfyniadau yw—

(a)

penderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rhoi trwydded llety ymwelwyr;

(b)

penderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â dirymu trwydded llety ymwelwyr.

(3)

Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad am y penderfyniad (“y cyfnod apelio”).

(4)

Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 28 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)

Ar apêl o dan is-adran (1), caiff y tribiwnlys—

(a)

cadarnhau’r penderfyniad;

(b)

cyfarwyddo nad yw’r penderfyniad i gymryd effaith (neu, os yw’r penderfyniad wedi cymryd effaith, gyfarwyddo bod y penderfyniad i beidio â chael effaith);

(c)

rhoi penderfyniad arall y gallai Gweinidogion Cymru fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn;

(d)

gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) y mae’r tribiwnlys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6)

Yn yr adran hon, ystyr “y tribiwnlys” yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.