RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 2TRWYDDEDU

Trwyddedau: trwyddedau dros dro‍

28Trwyddedau dros dro: darpariaeth bellach

(1)

Caiff DLlY y mae trwydded llety ymwelwyr dros dro wedi ei rhoi iddo o dan adran 27 (ar unrhyw adeg) wneud cais am drwydded llety ymwelwyr o dan adran 18 (“trwydded lawn”).

(2)

Ond pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi trwydded lawn i DLlY mewn cysylltiad â mangre o dan adran 20, rhaid iddynt ddirymu’r drwydded llety ymwelwyr dros dro y mae’r DLlY yn meddu arni mewn cysylltiad â’r fangre honno.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch trwyddedau dros dro.

(4)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) (ymysg pethau eraill)—

(a)

gwneud darpariaeth ar gyfer trosedd ddiannod y gellir ei chosbi drwy ddirwy mewn cysylltiad â thorri’r amod yn adran 27(3)(b);

(b)

gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch cymhwyso troseddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â thrwyddedau llety ymwelwyr dros dro, gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu’r troseddau hynny o ran eu cymhwyso mewn perthynas â thrwyddedau o’r fath;

(c)

diwygio—

(i)

y Ddeddf hon;

(ii)

Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5).