- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026, Adran 23 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 16 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thrwydded llety ymwelwyr y mae DLlY yn meddu arni—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amod yn y drwydded wedi ei dorri a bod yr amod yn debygol o—
(i)parhau i gael ei dorri, neu
(ii)cael ei dorri eto;
(b)os yw’r DLlY wedi cytuno y dylid dirymu’r drwydded.
(2)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r drwydded a rhoi hysbysiad i’r DLlY (“hysbysiad dirymu”)—
(a)yn rhoi gwybod i’r DLlY fod y drwydded wedi ei dirymu,
(b)yn nodi’r rhesymau pam y mae’r drwydded wedi ei dirymu, ac
(c)(ac eithrio pan fo’r DLlY wedi cytuno i’r drwydded gael ei dirymu) yn esbonio unrhyw hawl i apelio yn erbyn eu penderfyniad i ddirymu’r drwydded a roddir gan adran 29.
(3)Mae dirymiad trwydded a ddatgenir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) yn cymryd effaith—
(a)pan fo’r DLlY wedi cytuno i’r drwydded gael ei dirymu, ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, a
(b)mewn unrhyw achos arall—
(i)os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, drannoeth diwrnod olaf y cyfnod apelio y cyfeirir ato yn adran 29;
(ii)os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.
(4)Ond mae adran 24 yn gwneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau pan na chaiff Gweinidogion Cymru, er bod is-adran (1)(a) o’r adran hon yn gymwys, ddirymu trwydded heb roi cyfle yn gyntaf i’r DLlY i unioni’r tor amod.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch yr amgylchiadau pryd—
(a)y caiff Gweinidogion Cymru roi gwybod i’r DLlY ymlaen llaw am eu bwriad i roi hysbysiad dirymu o dan is-adran (2) os yw amod trwydded sydd wedi ei dorri yn flaenorol yn cael ei dorri eto;
(b)y caiff hysbysiad dirymu a roddir o dan is-adran (2) gymryd effaith ar unwaith oherwydd difrifoldeb y tor amod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: