RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 2TRWYDDEDU

Ceisiadau am drwydded: y weithdrefn

21Ceisiadau am drwydded: asesiad pellach cyn dyfarnu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais am drwydded llety ymwelwyr a wnaed gan DLlY yn unol ag adran 18, a

(b)pan na fônt wedi eu bodloni bod yr holl ofynion cymeradwyo wedi eu bodloni, ond

(c)cyn cwblhau eu dyfarniad ar y cais, pan fônt yn ystyried ei bod yn briodol i gamau gweithredu pellach gael eu cymryd neu i wybodaeth bellach gael ei darparu.

(2)Pan fo’r adran hon yn gymwys rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i’r DLlY eu bod yn cynnal asesiad pellach mewn perthynas â’r cais.

(3)Rhaid i hysbysiad a roddir i’r DLlY o dan is-adran (2)—

(a)nodi’r rhesymau pam nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr holl ofynion cymeradwyo wedi eu bodloni,

(b)pennu—

(i)unrhyw gamau gweithredu y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y caiff y DLlY eu cymryd, neu unrhyw wybodaeth y caiff y DLlY ei darparu, at ddiben bodloni Gweinidogion Cymru fod y gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni, a

(ii)cyfnod, o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, y mae’r camau gweithredu hynny i gael eu cymryd, neu y mae’r wybodaeth honno i gael ei darparu, ynddo, ac

(c)pennu unrhyw gamau gweithredu eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol eu cymryd er mwyn dyfarnu a yw’r gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni (a all gynnwys trefnu i berson awdurdodedig archwilio’r fangre gyda chytundeb y DLlY).

(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 30 ac 31, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.