Rhagolygol
(1)Mae gan Weinidogion Cymru y swyddogaethau a ganlyn mewn perthynas â hybu datblygiad twristiaeth yng Nghymru—
(a)annog pobl i ymweld â Chymru,
(b)annog pobl sy’n byw yng Nghymru i ymweld â lleoedd eraill yng Nghymru,
(c)darparu neu wella, neu hwyluso darparu neu wella, amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru, a
(d)darparu neu wella, neu hwyluso darparu neu wella, seilwaith yng Nghymru i’w ddefnyddio gan dwristiaid (pa un a yw hwn i’w ddefnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio).
(2)Ond wrth arfer y swyddogaethau hynny rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i bwysigrwydd—
(a)lliniaru’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol y mae twristiaid yn ei chael, a
(b)cynnal a hybu defnydd o’r Gymraeg.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried ei fod yn briodol, o fewn Cymru neu’r tu allan iddi, at ddiben cyflawni eu swyddogaethau o dan is-adran (1), gan gynnwys cyflawni, neu hwyluso, y gweithgareddau a ganlyn—
(a)marchnata Cymru fel cyrchfan i dwristiaid;
(b)darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth ynghylch twristiaeth yng Nghymru;
(c)cynnal ymchwil ynghylch twristiaeth yng Nghymru;
(d)darparu cymorth ariannol (ar y telerau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol).
(4)Yn is-adran (1)(c) ac yn adran 3, ystyr “amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru” yw amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i bobl sy’n ymweld â Chymru ac i bobl sy’n teithio o fewn Cymru ar gyfer busnes neu ar gyfer pleser.
(5)Gweler hefyd adran 3 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51), sy’n darparu y caiff Awdurdod Twristiaeth Prydain lunio cynllun er mwyn i gymorth ariannol gael ei roi gan Weinidogion Cymru (yn ogystal â chan Fwrdd Twristiaeth Lloegr a chan VisitScotland) ar gyfer cyflawni prosiectau i ddarparu neu wella cyfleusterau neu amwynderau twristiaeth ym Mhrydain Fawr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)