RHAN 2DATBLYGU TWRISTIAETH

2Swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran datblygu twristiaeth

(1)

Mae gan Weinidogion Cymru y swyddogaethau a ganlyn mewn perthynas â hybu datblygiad twristiaeth yng Nghymru—

(a)

annog pobl i ymweld â Chymru,

(b)

annog pobl sy’n byw yng Nghymru i ymweld â lleoedd eraill yng Nghymru,

(c)

darparu neu wella, neu hwyluso darparu neu wella, amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru, a

(d)

darparu neu wella, neu hwyluso darparu neu wella, seilwaith yng Nghymru i’w ddefnyddio gan dwristiaid (pa un a yw hwn i’w ddefnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio).

(2)

Ond wrth arfer y swyddogaethau hynny rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i bwysigrwydd—

(a)

lliniaru’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol y mae twristiaid yn ei chael, a

(b)

cynnal a hybu defnydd o’r Gymraeg.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried ei fod yn briodol, o fewn Cymru neu’r tu allan iddi, at ddiben cyflawni eu swyddogaethau o dan is-adran (1), gan gynnwys cyflawni, neu hwyluso, y gweithgareddau a ganlyn—

(a)

marchnata Cymru fel cyrchfan i dwristiaid;

(b)

darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth ynghylch twristiaeth yng Nghymru;

(c)

cynnal ymchwil ynghylch twristiaeth yng Nghymru;

(d)

darparu cymorth ariannol (ar y telerau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol).

(4)

Yn is-adran (1)(c) ac yn adran 3, ystyr “amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru” yw amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i bobl sy’n ymweld â Chymru ac i bobl sy’n teithio o fewn Cymru ar gyfer busnes neu ar gyfer pleser.

(5)

Gweler hefyd adran 3 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51), sy’n darparu y caiff Awdurdod Twristiaeth Prydain lunio cynllun er mwyn i gymorth ariannol gael ei roi gan Weinidogion Cymru (yn ogystal â chan Fwrdd Twristiaeth Lloegr a chan VisitScotland) ar gyfer cyflawni prosiectau i ddarparu neu wella cyfleusterau neu amwynderau twristiaeth ym Mhrydain Fawr.