RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 2TRWYDDEDU

Trwyddedau ac amodau trwydded

17Amodau trwydded: amodau pellach

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru yn unol ag is-adrannau (2) a (3) wneud rheoliadau sy’n rhagnodi amodau pellach sydd i fod yn gymwys i drwydded llety ymwelwyr.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion—

(a)

cynnal neu wella safon llety ymwelwyr yng Nghymru;

(b)

cynnal neu wella amwynder mangre lle y darperir llety ymwelwyr neu amwynder y tir y mae’r fangre honno arno;

(c)

hybu twristiaeth yng Nghymru.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi amod drwy gyfeirio at—

(a)

disgrifiad o fangre y mae’r amod yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(b)

disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r amod yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(c)

natur neu gynnwys y contractau y darperir disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre odanynt yn unol â’r drwydded;

(d)

y disgrifiad o DLlY y rhoddir y drwydded iddo;

(e)

disgrifiad o berson y darperir llety ymwelwyr iddo yn y fangre yn unol â’r drwydded;

(f)

unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(4)

O ran rheoliadau o dan is-adran (1)‍—

(a)

rhaid iddynt wneud darpariaeth ynghylch cymhwyso unrhyw amodau a ragnodir gan y rheoliadau i drwyddedau a roddir (neu a adnewyddir) cyn i’r amodau hynny ddod i rym;

(b)

cânt ddiwygio’r Ddeddf hon at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag amodau yn cael eu rhagnodi o dan yr adran hon.

(5)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)

Ond nid yw’r gofyniad o dan is-adran (5) yn gymwys i reoliadau—

(a)

sy’n diwygio rheoliadau a wnaed yn flaenorol o dan is-adran (1), a

(b)

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.