RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR
PENNOD 1CYSYNIADAU ALLWEDDOL
Ffitrwydd mangre llety ymwelwyr
13Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: yswiriant
(1)
Y safon yswiriant yw bod polisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ei le mewn perthynas ag atebolrwyddau i drydydd partïon sy’n deillio o ddarparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre neu sy’n gysylltiedig â darparu llety o’r fath.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
y materion neu’r amgylchiadau y mae rhaid i’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ddarparu sicrwydd mewn perthynas â hwy, a
(b)
cwmpas y sicrwydd hwnnw.