Rhagolygol
(1)Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith Cymru sy’n ymwneud â thwristiaeth.
(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran hybu datblygiad twristiaeth.
(3)Mae Rhan 3 yn rheoleiddio darparu disgrifiadau penodedig o lety ymwelwyr mewn mangreoedd yng Nghymru (y cyfeirir ato fel “llety ymwelwyr rheoleiddiedig”) at ddiben gwella a hybu safon y llety hwnnw.
(4)Mae Pennod 1 o Ran 3 yn gwneud darpariaeth sy’n cyflwyno cysyniadau allweddol, gan gynnwys y diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig, ac ystyr mangre yn bod yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.
(5)Mae Pennod 2 o Ran 3 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fangre lle y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig fod wedi ei thrwyddedu gan Weinidogion Cymru ac sy’n gosod amodau trwydded, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i fangre fod yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.
(6)Mae Pennod 3 o Ran 3 yn gwneud ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr yn rhwymedigaeth gontractiol sy’n orfodadwy gan ymwelwyr y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig iddynt.
(7)Mae Rhan 4—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru (sy’n cynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr a sefydlwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5)) a Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd ar ffurf cyfeiriadur o lety ymwelwyr mewn mangreoedd yng Nghymru;
(b)yn creu troseddau sy’n ymwneud â hysbysebu a marchnata etc. llety ymwelwyr.
(8)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth amrywiol a chyffredinol ynghylch gweithredu’r Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)