Rhagolygol

RHAN 2LL+CCOFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR

Newid y gofrestrLL+C

9Dyletswydd i hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebauLL+C

(1)Rhaid i DLlY roi hysbysiad i ACC am unrhyw—

(a)newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y DLlY yn y gofrestr fod yn anghywir, neu

(b)anghywirdeb yng nghofnod y DLlY yn y gofrestr,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid mewn amgylchiadau yn digwydd neu â’r diwrnod pan ddaeth y DLlY i wybod gyntaf, neu pan ddylai fod wedi gwybod, am yr anghywirdeb.

(2)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—

(a)bod ar unrhyw ffurf, a chael ei roi mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC,

(b)cynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi ACC i gywiro’r gofrestr, ac

(c)cynnwys unrhyw wybodaeth arall, a chynnwys gydag ef unrhyw ddogfennau, a bennir gan ACC.

(3)Rhaid i ACC, os yw’r hysbysiad yn cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cywiro’r gofrestr, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r DLlY, yn pennu’r cywiriadau a wnaed i gofnod y DLlY,

oni bai bod ACC eisoes wedi gwneud y cywiriadau o dan adran 11.

(4)Os yw ACC yn penderfynu peidio â gwneud newid i’r gofrestr ar ôl cael hysbysiad gan DLlY o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r DLlY hwnnw—

(a)yn pennu’r rheswm pam, a

(b)yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 67(2)