RHAN 2COFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR
Newid y gofrestr
9Dyletswydd i hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
(1)
Rhaid i DLlY roi hysbysiad i ACC am unrhyw—
(a)
newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y DLlY yn y gofrestr fod yn anghywir, neu
(b)
anghywirdeb yng nghofnod y DLlY yn y gofrestr,
cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid mewn amgylchiadau yn digwydd neu â’r diwrnod pan ddaeth y DLlY i wybod gyntaf, neu pan ddylai fod wedi gwybod, am yr anghywirdeb.
(2)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—
(a)
bod ar unrhyw ffurf, a chael ei roi mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC,
(b)
cynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi ACC i gywiro’r gofrestr, ac
(c)
cynnwys unrhyw wybodaeth arall, a chynnwys gydag ef unrhyw ddogfennau, a bennir gan ACC.
(3)
Rhaid i ACC, os yw’r hysbysiad yn cydymffurfio ag is-adran (2)—
(a)
cywiro’r gofrestr, a
(b)
dyroddi hysbysiad i’r DLlY, yn pennu’r cywiriadau a wnaed i gofnod y DLlY,
oni bai bod ACC eisoes wedi gwneud y cywiriadau o dan adran 11.
(4)
Os yw ACC yn penderfynu peidio â gwneud newid i’r gofrestr ar ôl cael hysbysiad gan DLlY o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r DLlY hwnnw—
(a)
yn pennu’r rheswm pam, a
(b)
yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.