Rhagolygol

RHAN 2LL+CCOFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR

Y gofrestrLL+C

8Pŵer i gofrestru personau pan na fo cais wedi ei wneud i ACCLL+C

(1)Caiff ACC gofrestru person nad yw’n gofrestredig ac nad yw wedi gwneud cais i fod yn gofrestredig os yw ACC, ar y diwrnod y mae ACC yn cofrestru’r person, yn ystyried bod y person—

(a)yn DLlY, neu

(b)wedi bod yn DLlY ar unrhyw adeg yn ystod y 14 o ddiwrnodau blaenorol.

(2)Cyn y caiff ACC gofrestru person o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—

(a)yn nodi’r wybodaeth a fydd yn cael ei chynnwys yng nghofnod y person hwnnw yn y gofrestr,

(b)yn pennu unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gofnod y person hwnnw nad yw gan ACC, neu y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir, neu y gall fod yn anghywir,

(c)yn rhoi gwybod i’r person y bydd ACC yn cofrestru’r person ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad oni bai—

(i)bod y person, cyn y dyddiad hwnnw, yn gwneud cais i fod yn gofrestredig yn unol ag adran 6, neu

(ii)bod ACC wedi ei fodloni nad yw’n ofynnol i’r person gofrestru, a

(d)yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (2)(c) fod o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(4)Mae person sydd wedi ei gofrestru o dan yr adran hon i’w drin, at ddibenion adran 7, fel pe na bai’r person hwnnw yn gofrestredig; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys o’r adeg y mae’r person—

(a)yn rhoi hysbysiad i ACC—

(i)sy’n darparu unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i wneud cofnod y person yn gyflawn ac yn gywir, neu

(ii)os nad oes angen unrhyw wybodaeth o’r fath, sy’n cadarnhau bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir, neu

(b)yn gwneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 67(2)