Rhagolygol
(1)Mae DLlY yn agored i gosb os yw’r canlynol yn wir o ran y DLlY—
(a)mae’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, a
(b)nid yw’n gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre, neu’r mangreoedd, lle y darperir neu y cynigir y llety ymwelwyr.
(2)Mae’r gosb i’w chyfrifo yn unol â’r fformiwla—
£100 × A
pan fo “A” yn dynodi nifer y mangreoedd lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, ac nad yw’r DLlY yn gofrestredig mewn cysylltiad â hwy.
(3)Rhaid i hysbysiad cosb a ddyroddir i DLlY mewn cysylltiad â chosb y mae’r DLlY yn agored iddi o dan is-adran (1) bennu’r fangre, neu’r mangreoedd, o dan sylw.
(4)Os yw’r DLlY, ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cosb (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), yn parhau i weithredu fel y disgrifir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn yr hysbysiad cosb—
(a)mae’r DLlY yn agored i gosb am bob diwrnod y mae’r DLlY yn parhau i weithredu felly ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod (gweler is-adran (5)(a)(i)), a
(b)mae’r DLlY yn agored i gosb am yr 31ain diwrnod y mae’r DLlY yn parhau i weithredu felly ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol (gweler is-adran (5)(a)(ii)).
(5)Mae cosb o dan is-adran (4) i’w chyfrifo yn unol â’r fformiwla—
£X × P
pan fo—
“£X”—
mewn perthynas â chosb o dan is-adran (4)(a), yn £10, a
mewn perthynas â chosb o dan is-adran (4)(b), yn £1000, a
“P” yn dynodi nifer y mangreoedd a bennir yn yr hysbysiad cosb—
lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr ar y diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef, a
nad yw’r DLlY yn gofrestredig mewn cysylltiad â hwy ar y diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.
(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.
(7)Mae person—
(a)sy’n peidio â bod yn DLlY, ond
(b)a ddaeth yn agored i gosb o dan yr adran hon tra oedd y person yn DLlY,
yn parhau i fod yn agored i’r gosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 67(2)