(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)