(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
(b)cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr adolygiad.
(2)Rhaid cwblhau’r adolygiad o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 o’r Ddeddf hon i rym yn llawn.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a)cynnal adolygiadau dilynol o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
(b)cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar bob adolygiad dilynol.
(4)Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr adolygiad o dan is-adran (1).
(5)Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad blaenorol.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ACC i gynorthwyo i gynnal adolygiad o dan yr adran hon; a rhaid i ACC gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan yr is-adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 63 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)