RHAN 4DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

PENNOD 2AMRYWIOL

63Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a

(b)

cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr adolygiad.

(2)

Rhaid cwblhau’r adolygiad o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 o’r Ddeddf hon i rym yn llawn.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)

cynnal adolygiadau dilynol o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a

(b)

cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar bob adolygiad dilynol.

(4)

Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr adolygiad o dan is-adran (1).

(5)

Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad blaenorol.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ACC i gynorthwyo i gynnal adolygiad o dan yr adran hon; a rhaid i ACC gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan yr is-adran hon.