RHAN 4DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

PENNOD 2AMRYWIOL

62Pŵer i estyn y Ddeddf i ddocfeydd ac angorfeydd

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon, a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6), fel bod y naill neu’r llall o Rannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon, neu’r ddwy ohonynt, yn gymwys neu’n cael eu hatgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, mewn cysylltiad â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llestrau.