(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll pan drosglwyddir busnes perthnasol o un person i un arall fel busnes gweithredol.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu am y trosglwyddiad;
(b)i unrhyw atebolrwydd neu ddyletswydd ar ran y trosglwyddwr sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ddod yn atebolrwydd neu’n ddyletswydd i’r trosglwyddai;
(c)i unrhyw hawlogaeth ar ran y trosglwyddwr i ollwng neu ad-dalu swm o ardoll, pa un a yw’n codi cyn y trosglwyddiad neu ar ei ôl, ddod yn hawlogaeth i’r trosglwyddai;
(d)i unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad gan y trosglwyddwr neu mewn perthynas â’r trosglwyddwr gael ei drin at ddibenion y gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas â’r trosglwyddai;
(e)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel.
(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau, ac yn benodol cânt—
(a)darparu ei bod yn ofynnol cael cymeradwyaeth ACC cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2)(b) i (e) i drosglwyddwr a throsglwyddai;
(b)gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a dyfarnu arnynt.
(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—
(a)cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;
(b)naill ai adolygiadau neu apelau neu’r ddau.
(5)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll (gan gynnwys y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 60 mewn grym ar 19.9.2025 at ddibenion penodedig, gweler a. 67(1)(2)