RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 5LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL SY’N YMWNEUD Â’R ARDOLL

53Pŵer Gweinidogion Cymru i osod gofynion o ran hysbysebu a bilio etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre mewn ardal lle y mae prif gyngor wedi cyflwyno’r ardoll, neu wedi penderfynu ei chyflwyno, sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)cynnwys gwybodaeth ynghylch swm yr ardoll sy’n daladwy ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr mewn anfoneb, derbynneb neu ddogfen arall a ddarperir mewn cysylltiad â’r arhosiad hwnnw;

(b)pryd a sut y mae gwybodaeth sy’n ymwneud â bodolaeth, natur, a swm yr ardoll i’w darparu.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ei gwneud yn ofynnol (ymysg pethau eraill)—

(a)bod arwydd (ym mha le bynnag, pa bryd bynnag neu ym mha ffordd bynnag y’i rhoddir) o’r swm sy’n daladwy am arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn cynnwys gwybodaeth am swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r arhosiad;

(b)bod deunydd hybu a marchnata a gwybodaeth arall a roddir ar gael mewn perthynas â llety ymwelwyr yn cynnwys gwybodaeth am swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos yn y llety;

(c)bod gwybodaeth am swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn cael ei harddangos mewn llety ymwelwyr.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)rhoi pŵer i osod sancsiwn sifil ar berson nad yw wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau, pa un a yw’r person sy’n gosod y sancsiwn sifil yn rheoleiddiwr at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) ai peidio, a

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn sancsiynau sifil a osodir yn rhinwedd paragraff (a).

(4)Yn is-adran (3) ystyr “sancsiwn sifil” yw sancsiwn o fath y caniateir gwneud darpariaeth ar ei gyfer o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (cosbau ariannol penodedig, gofynion yn ôl disgresiwn, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi).

(5)At ddibenion yr adran hon, mae prif gyngor wedi penderfynu cyflwyno’r ardoll os yw wedi cyhoeddi hysbysiad o dan adran 48 yn datgan ei fod yn mynd i gyflwyno’r ardoll.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)