RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 5LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL SY’N YMWNEUD Â’R ARDOLL

52Trefniadau â thrydydd parti i gasglu’r ardoll etc. ar ran y darparwrLL+C

(1)Caiff darparwr llety ymwelwyr wneud trefniadau i un neu ragor o bersonau wneud y canlynol ar ran y darparwr—

(a)casglu symiau sy’n gyfwerth â swm yr ardoll mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr;

(b)dychwelyd ffurflenni, neu dalu’r ardoll, i ACC;

(c)ad-dalu symiau a gasglwyd yn rhinwedd paragraff (a).

(2)Nid yw gwneud trefniant o dan is-adran (1) yn effeithio ar rwymedigaethau darparwr llety ymwelwyr o dan neu yn rhinwedd y canlynol—

(a)y Ddeddf hon, neu

(b)Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â’r ardoll).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)