RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 5DARPARIAETH AMRYWIOL SY’N YMWNEUD Â’R ARDOLL

52Trefniadau â thrydydd parti i gasglu’r ardoll etc. ar ran y darparwr

(1)

Caiff darparwr llety ymwelwyr wneud trefniadau i un neu ragor o bersonau wneud y canlynol ar ran y darparwr—

(a)

casglu symiau sy’n gyfwerth â swm yr ardoll mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr;

(b)

dychwelyd ffurflenni, neu dalu’r ardoll, i ACC;

(c)

ad-dalu symiau a gasglwyd yn rhinwedd paragraff (a).

(2)

Nid yw gwneud trefniant o dan is-adran (1) yn effeithio ar rwymedigaethau darparwr llety ymwelwyr o dan neu yn rhinwedd y canlynol—

(a)

y Ddeddf hon, neu

(b)

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â’r ardoll).