RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 4LL+CCYFLWYNO, NEWID NEU DDIDDYMU’R ARDOLL

49Arosiadau dros nos nad effeithir arnynt gan gyflwyno neu newid yr ardollLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’r ardoll wedi dod yn effeithiol yn ardal prif gyngor.

(2)At ddibenion y Rhan hon, nid yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd os gwnaed y contract perthnasol cyn y dyddiad sydd chwe mis ar ôl y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor gyflwyno’r ardoll.

(3)Ond os yw contract perthnasol sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cael ei amrywio ar neu ar ôl y dyddiad sydd chwe mis ar ôl y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor gyflwyno’r ardoll, mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd mewn perthynas ag—

(a)person sydd, o ganlyniad i’r amrywiad, â hawlogaeth i breswylio dros nos mewn llety ymwelwyr;

(b)noson pan fo gan berson (pa un a yw’r person hwnnw yn dod o fewn paragraff (a) ai peidio), o ganlyniad i’r amrywiad, hawlogaeth i breswylio dros nos mewn llety ymwelwyr.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo newid i’r ardoll wedi dod yn effeithiol yn ardal prif gyngor.

(5)Nid yw’r newid i’r ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr os gwnaed y contract perthnasol cyn y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor newid yr ardoll.

(6)Yn yr adran hon, “y contract perthnasol” yw’r contract—

(a)y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd odano, neu y byddai (oni bai am yr adran hon) yn digwydd odano,

(b)y mae gan un neu ragor o bobl hawlogaeth i breswylio yn y llety hwnnw odano, ac

(c)y mae’r darparwr llety ymwelwyr yn barti iddo.

(7)At ddibenion yr adran hon, y dyddiad y mae prif gyngor yn penderfynu cyflwyn‍o neu newid yr ardoll yw’r dyddiad y mae’n cyhoeddi hysbysiad o dan adran 48(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)