RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 4LL+CCYFLWYNO, NEWID NEU DDIDDYMU’R ARDOLL

48Cyflwyno’r ardoll a newid neu ddiddymu’r ardollLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor—

(a)wedi cydymffurfio ag adran 47, a

(b)wedi penderfynu cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll.

(2)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi hysbysiad sy’n nodi—

(a)pa un o’r camau a bennir yn is-adran (1)(b) y mae’n mynd i’w gymryd a (heblaw pan fo’r ardoll i’w diddymu) beth fydd cyfraddau’r ardoll,

(b)y dyddiad pryd y bydd yr ardoll (yn ôl y digwydd)—

(i)yn dod yn effeithiol yn ei ardal;

(ii)yn peidio â chael effaith yn ei ardal;

(iii)yn newid, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall y mae’r cyngor yn ystyried ei bod yn briodol.

(3)O ran dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) fel y dyddiad pryd y bydd yr ardoll yn dod yn effeithiol neu’n peidio â chael effaith yn ardal prif gyngor—

(a)ni chaiff fod cyn—

(i)diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr hysbysiad, neu

(ii)diwedd unrhyw gyfnod o lai na 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, y cytunir arno gan y prif gyngor ac ACC, a

(b)rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.

(4)O ran dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) fel y dyddiad pryd y bydd yr ardoll yn ardal prif gyngor yn newid—

(a)ni chaiff fod cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr hysbysiad, a

(b)rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.

(5)Mae cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll (yn ôl y digwydd) yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan is-adran (2).

(6)Mae’r gofyniad yn is-adran (2) i gyhoeddi hysbysiad yn ofyniad i gyhoeddi’r hysbysiad ar wefan y prif gyngor, ac mewn unrhyw fodd arall y mae’r cyngor yn ystyried ei fod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)