RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 4CYFLWYNO, NEWID NEU DDIDDYMU’R ARDOLL

48Cyflwyno’r ardoll a newid neu ddiddymu’r ardoll

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor—

(a)

wedi cydymffurfio ag adran 47, a

(b)

wedi penderfynu cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll.

(2)

Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi hysbysiad sy’n nodi—

(a)

pa un o’r camau a bennir yn is-adran (1)(b) y mae’n mynd i’w gymryd a (heblaw pan fo’r ardoll i’w diddymu) beth fydd cyfraddau’r ardoll,

(b)

y dyddiad pryd y bydd yr ardoll (yn ôl y digwydd)—

(i)

yn dod yn effeithiol yn ei ardal;

(ii)

yn peidio â chael effaith yn ei ardal;

(iii)

yn newid, ac

(c)

unrhyw wybodaeth arall y mae’r cyngor yn ystyried ei bod yn briodol.

(3)

O ran dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) fel y dyddiad pryd y bydd yr ardoll yn dod yn effeithiol neu’n peidio â chael effaith yn ardal prif gyngor—

(a)

ni chaiff fod cyn—

(i)

diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr hysbysiad, neu

(ii)

diwedd unrhyw gyfnod o lai na 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, y cytunir arno gan y prif gyngor ac ACC, a

(b)

rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.

(4)

O ran dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) fel y dyddiad pryd y bydd yr ardoll yn ardal prif gyngor yn newid—

(a)

ni chaiff fod cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr hysbysiad, a

(b)

rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.

(5)

Mae cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll (yn ôl y digwydd) yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan is-adran (2).

(6)

Mae’r gofyniad yn is-adran (2) i gyhoeddi hysbysiad yn ofyniad i gyhoeddi’r hysbysiad ar wefan y prif gyngor, ac mewn unrhyw fodd arall y mae’r cyngor yn ystyried ei fod yn briodol.