RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 3LL+CDEFNYDD PRIF GYNGHORAU O ENILLION YR ARDOLL

46Fforymau partneriaeth ardollLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal sefydlu fforwm (“fforwm partneriaeth ardoll”) ar gyfer trafod materion sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr yn ardal y cyngor, gyda’r bwriad o ddarparu’r canlynol, yn benodol, i’r cyngor—

(a)gwybodaeth a chyngor ynghylch sut y gellir defnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor;

(b)gwybodaeth a chyngor ynghylch cynnig gan y cyngor (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 sy’n galluogi prif gynghorau i ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll) i—

(i)ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll,

(ii)newid swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll, neu

(iii)dileu swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll,

pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyngor gyhoeddi adroddiad o dan adran 47(4)(b).

(2)Rhaid i’r prif gyngor, wrth arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw wybodaeth neu unrhyw gyngor a ddarperir yn y fforwm ar y materion a bennir yn is-adran (1)(a) a (b).

(3)Rhaid i’r prif gyngor—

(a)cymryd camau rhesymol i sicrhau ei fod wedi sefydlu’r fforwm partneriaeth ardoll heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad y daw’r ardoll yn effeithiol yn ardal y cyngor,

(b)gwneud trefniadau i’r fforwm gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol y mae’r ardoll yn cael effaith ynddi yn ardal y cyngor, ac

(c)hwyluso cyfarfodydd y fforwm a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y fforwm yn gallu, fel y disgrifir yn is-adran (1), drafod materion, a darparu gwybodaeth a chyngor, yn effeithiol.

(4)O ran y prif gyngor—

(a)rhaid iddo gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y fforwm partneriaeth ardoll yn cynnwys personau sy’n gynrychiolwyr o—

(i)sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal y prif gyngor;

(ii)sefydliadau sy’n hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor;

(b)caiff gynnwys yn y fforwm unrhyw bersonau eraill, sydd â buddiant ym maes twristiaeth neu mewn llety ymwelwyr yn ardal y cyngor, y mae’r cyngor yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r prif gyngor, wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3), gymryd camau rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y fforwm yn gynrychioliadol o ystod o safbwyntiau sy’n ymwneud â thwristiaeth a llety ymwelwyr yn ardal y cyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)