(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol y mae’r cyngor wedi cael enillion yr ardoll ynddi, ar ddefnyddio’r enillion hynny.
(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)faint oedd enillion yr ardoll yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, a swm unrhyw ddidyniadau o enillion yr ardoll gan ACC o dan adran 24A(3) a (4) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a
(b)sut y mae enillion yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol o dan sylw wedi cael eu defnyddio, neu sut y byddant yn cael eu defnyddio, gan y cyngor, a sut y mae’r defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.
(3)Cyn cyhoeddi’r adroddiad, rhaid i’r prif gyngor—
(a)anfon drafft o’r adroddiad at aelodau’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y prif gyngor o dan adran 46(1), a
(b)ymgynghori â’r personau hynny ynghylch y drafft.
(4)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r adroddiad—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, a
(b)mewn unrhyw achos, heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon—
(a)i wneud darpariaeth ynghylch cynnwys adroddiad o dan yr adran hon;
(b)i newid—
(i)nifer yr adroddiadau y mae rhaid eu cyhoeddi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol;
(ii)pa mor aml y cyhoeddir adroddiadau;
(iii)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 45 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)