RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 3DEFNYDD PRIF GYNGHORAU O ENILLION YR ARDOLL

45Adroddiad ar ddefnyddio enillion yr ardoll

(1)

Rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol y mae’r‍ cyngor wedi cael enillion yr ardoll ynddi, ar ddefnyddio’r enillion hynny.

(2)

Rhaid i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)

faint oedd enillion yr ardoll yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, a swm unrhyw ddidyniadau o enillion yr ardoll gan ACC o dan adran 24A(3) a (4) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a

(b)

sut y mae enillion yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol o dan sylw wedi cael eu defnyddio, neu sut y byddant yn cael eu defnyddio, gan y cyngor, a sut y mae’r defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.

(3)

Cyn cyhoeddi’r adroddiad, rhaid i’r prif gyngor—

(a)

anfon drafft o’r adroddiad at aelodau’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y prif gyngor o dan adran 46(1), a

(b)

ymgynghori â’r personau hynny ynghylch y drafft.

(4)

Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r adroddiad—

(a)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, a

(b)

mewn unrhyw achos, heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon—

(a)

i wneud darpariaeth ynghylch cynnwys adroddiad o dan yr adran hon;

(b)

i newid—

(i)

nifer yr adroddiadau y mae rhaid eu cyhoeddi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol;

(ii)

pa mor aml y cyhoeddir adroddiadau;

(iii)

y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi adroddiad.