(1)Rhaid i brif gyngor ddefnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ei ardal.
(2)At ddibenion y Bennod hon, mae rheoli a gwella cyrchfannau yn cynnwys—
(a)lliniaru’r effaith y mae ymwelwyr yn ei chael;
(b)cynnal a hybu defnyddio’r Gymraeg;
(c)hybu a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio;
(d)darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau sydd i’w defnyddio gan ymwelwyr (pa un a ydynt i’w defnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)