RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 3DEFNYDD PRIF GYNGHORAU O ENILLION YR ARDOLL

44Defnyddio enillion yr ardoll ar gyfer rheoli a gwella cyrchfannau

(1)

Rhaid i brif gyngor ddefnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ei ardal.

(2)

At ddibenion y Bennod hon, mae rheoli a gwella cyrchfannau yn cynnwys—

(a)

lliniaru’r effaith y mae ymwelwyr yn ei chael;

(b)

cynnal a hybu defnyddio’r Gymraeg;

(c)

hybu a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio;

(d)

darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau sydd i’w defnyddio gan ymwelwyr (pa un a ydynt i’w defnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio).