(1)Rhaid i berson—
(a)sydd wedi peidio â bod yn DLlY, a
(b)a oedd, yn union cyn peidio â bod yn DLlY, yn ddarostyngedig i ddyletswydd o dan y Bennod hon,
gydymffurfio â’r ddyletswydd honno.
(2)Cyhyd â bod person a grybwyllir yn is-adran (1) yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan sylw, mae’r Bennod hon, adran 52 a Phennod 1 o Ran 4 yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw yn DLlY.
(3)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (1) yn dod yn DLlY wedi hynny, mae is-adrannau (1) a (2) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; ond mae’r person yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ddyletswydd—
(a)yr oedd y person yn ddarostyngedig iddi yn rhinwedd is-adran (1), a
(b)nad yw’r person wedi cydymffurfio â hi hyd yma.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)