RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 2RHOI CYFRIF AM YR ARDOLL, A THALU’R ARDOLL

Personau sydd wedi peidio â bod yn ddarparwyr llety ymwelwyr

41Personau sydd wedi peidio â bod yn DLlY: dyletswyddau o dan y Bennod hon

(1)

Rhaid i berson—

(a)

sydd wedi peidio â bod yn DLlY, a

(b)

a oedd, yn union cyn peidio â bod yn DLlY, yn ddarostyngedig i ddyletswydd o dan y Bennod hon,

gydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

(2)

Cyhyd â bod person a grybwyllir yn is-adran (1) yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan sylw, mae’r Bennod hon, adran 52 a Phennod 1 o Ran 4 yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw yn DLlY.

(3)

Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (1) yn dod yn DLlY wedi hynny, mae is-adrannau (1) a (2) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; ond mae’r person yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ddyletswydd—

(a)

yr oedd y person yn ddarostyngedig iddi yn rhinwedd is-adran (1), a

(b)

nad yw’r person wedi cydymffurfio â hi hyd yma.