RHAN 3ARDOLL YMWELWYR
PENNOD 2RHOI CYFRIF AM YR ARDOLL, A THALU’R ARDOLL
Talu
40Talu’r ardoll
(1)
Rhaid i DLlY sy’n dychwelyd ffurflen dalu i ACC swm yr ardoll a nodir yn y ffurflen yn unol ag adran 36(3)(a).
(2)
Rhaid i unrhyw ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â ffurflen gael ei thalu i ACC ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen neu cyn hynny (gweler adran 36(5)).
(3)
Gweler y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o’r ardoll o dan amgylchiadau eraill—
adran 42(4A) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir i ffurflen gan ACC);
adran 45(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen yn ystod ymholiad);
adran 50(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen ar ôl cwblhau ymholiad);
adran 52(5) (swm sy’n daladwy yn unol â dyfarniad ACC);
adran 61(2) (swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC).