Rhagolygol
(1)Rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr (“y gofrestr”).
(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghofnod darparwr llety ymwelwyr yn y gofrestr.
(3)Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC yn ystyried ei bod yn briodol.
(4)Rhaid i ACC gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y mae ACC yn ystyried ei fod yn briodol, yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd Atodlen 1.
(5)Ond ni chaiff ACC gyhoeddi (ni waeth a yw’r wybodaeth o dan sylw wedi ei chynnwys yn y cofnod ar gyfer darparwr llety ymwelwyr sy’n unigolyn)—
(a)enw unigolyn, oni bai—
(i)bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu
(ii)bod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”);
(b)cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn, oni bai—
(i)bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu
(ii)bod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.
(6)Caiff ACC gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y mae ACC yn ystyried ei fod yn briodol, wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (3); ond ni chaiff ACC gyhoeddi gwybodaeth o dan yr is-adran hon os gwaherddir ACC rhag cyhoeddi’r wybodaeth honno drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.
(7)Yn y Rhan hon—
(a)ystyr “cofrestredig” yw cofrestredig yn y gofrestr, a
(b)mae cyfeiriad at fangre lle y mae person neu DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn gyfeiriad at fangre—
(i)yng Nghymru,
(ii)lle y mae’r person neu’r DLlY, yng nghwrs masnach neu fusnes, yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, a
(iii)a feddiennir gan y person neu’r DLlY.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 67(2)