RHAN 2COFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR

Y gofrestr

4Cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr

(1)

Rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr (“y gofrestr”).

(2)

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghofnod darparwr llety ymwelwyr yn y gofrestr.

(3)

Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)

Rhaid i ACC gyhoeddi,‍ mewn unrhyw fodd y mae ACC yn ystyried ei fod yn briodol, yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd Atodlen 1.

(5)

Ond ni chaiff ACC gyhoeddi (ni waeth a yw’r wybodaeth o dan sylw wedi ei chynnwys yn y cofnod ar gyfer darparwr llety ymwelwyr sy’n unigolyn)—

(a)

enw unigolyn, oni bai—

(i)

bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu

(ii)

bod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”);

(b)

cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn, oni bai—

(i)

bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu

(ii)

bod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.

(6)

Caiff ACC gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y mae ACC yn ystyried ei fod yn briodol, wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (3); ond ni chaiff ACC gyhoeddi gwybodaeth o dan yr is-adran hon os gwaherddir ACC rhag cyhoeddi’r wybodaeth honno drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.

(7)

Yn y Rhan hon—

(a)

ystyr “cofrestredig” yw cofrestredig yn y gofrestr, a

(b)

mae cyfeiriad at fangre lle y mae person neu DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn gyfeiriad at fangre—

(i)

yng Nghymru,

(ii)

lle y mae’r person neu’r DLlY, yng nghwrs masnach neu fusnes, yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, a

(iii)

a feddiennir gan y person neu’r DLlY.