RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 2LL+CRHOI CYFRIF AM YR ARDOLL, A THALU’R ARDOLL

FfurflenniLL+C

39Ystyr “cyfnod cyfrifyddu”: ffurflenni chwarterolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â DLlY sy’n penderfynu, neu y mae’n ofynnol iddo, o dan adran 37 ddychwelyd ffurflenni chwarterol.

(2)Y cyfnod cyfrifyddu yw chwarter calendr, yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(3)Pan fo’r DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, mae cyfnod cyfrifyddu cyntaf y DLlY—

(a)yn dechrau ar y dyddiad y mae’r DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, a

(b)yn dod i ben â diwedd y chwarter calendr y dechreuodd y cyfnod cyfrifyddu ynddo.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)