(1)Caiff DLlY ddychwelyd ffurflen flynyddol mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol (ond caiff ddewis dychwelyd ffurflenni chwarterol)—
(a)os yw’r DLlY yn disgwyl na fydd swm yr ardoll y bydd y DLlY yn atebol am ei dalu, mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, yn fwy na £1000, a
(b)os nad oedd y DLlY (os dychwelodd y DLlY ffurflen mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol, neu unrhyw ran o’r flwyddyn honno) yn atebol am dalu swm o’r ardoll a oedd yn fwy na £1000 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol.
(2)Rhaid i DLlY na chaniateir iddo ddychwelyd ffurflen flynyddol mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny, ddychwelyd ffurflenni chwarterol.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)diwygio is-adran (1)(a) a (b) i newid y ffigur a bennir yn y paragraffau hynny;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth y caiff DLlY ei darparu i ACC, neu y mae rhaid iddo ei darparu i ACC, os yw’r DLlY yn dymuno dychwelyd ffurflen flynyddol.
(4)Ni chaiff newid i ba mor aml y dychwelir ffurflen gymryd effaith ond ar ddechrau blwyddyn ariannol.
(5)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 120D o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (gwahardd newid pa mor aml y dychwelir ffurflenni pan fo gan DLlY bwynt cosb).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)