RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 1CYMHWYSO A GWEITHREDU’R ARDOLL, A CHYFRADDAU’R ARDOLL

Ad-dalu swm sy’n gyfwerth â’r ardoll

35Cais am ad-dalu swm sy’n gyfwerth â’r ardoll

(1)

Yn yr adran hon, ystyr “ad-daliad ardoll” yw taliad i berson gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”), o dan is-adran (5) neu (6), o swm sy’n gyfwerth â’r cyfan o swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd wedi digwydd, neu ran o’r swm hwnnw.

(2)

Ni chaiff ACC wneud ad-daliad ardoll mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos ond os—

(a)

yw cais am ad-daliad ardoll wedi ei wneud i ACC—

(i)

gan berson a ddarparodd gydnabyddiaeth, o dan gontract, mewn cysylltiad â’r arhosiad dros nos, a

(ii)

cyn diwedd y cyfnod o‍ 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod olaf yr oedd gan berson hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety ymwelwyr, a

(b)

yw ACC yn ystyried bod is-adran (3) neu (4) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys mewn perthynas â chontract os arhosodd person dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract oherwydd—

(a)

nad oedd y person hwnnw yn gallu preswylio yn ei unig breswylfa neu yn ei brif breswylfa oherwydd risg i’w iechyd, i’w ddiogelwch neu i’w les, neu

(b)

bod y person hwnnw, ar adeg yr arhosiad, fel arall yn ddigartref (o fewn ystyr adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7)).

(4)

Mae’r is-adran hon yn gymwys mewn perthynas â chontract os—

(a)

o ran person (“P”)—

(i)

arhosodd dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract,

(ii)

yn ystod yr arhosiad, roedd gyda pherson sy’n cael budd-dal anabledd (“A”) a darparodd ofal, cymorth neu gynhorthwy i A, a

(iii)

roedd y llety ymwelwyr yn yr un fangre â’r llety ymwelwyr yr arhosodd A ynddo (pa un a arhosodd P yn y llety o dan yr un contract ag A ai peidio), a

(b)

nad yw is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.

(5)

Pan fo ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud fel y disgrifir yn is-adran (2)(a) a bo is-adran (3) yn gymwys i’r contract, rhaid i ACC naill ai—

(a)

talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r arhosiad, neu

(b)

pan fo ACC yn ystyried na ddylid gwneud taliad mewn perthynas ag—

(i)

pob person a arhosodd dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract;

(ii)

pob noson pan arhosodd un neu ragor o bobl dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract,

talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas â phob person y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad ag ef ac â phob noson y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad â hi.

(6)

Pan fo ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud fel y disgrifir yn is-adran (2)(a) a bo is-adran (4) yn gymwys i’r contract, rhaid i ACC naill ai—

(a)

talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas ag arhosiad P, neu

(b)

pan fo ACC yn ystyried na ddylid gwneud taliad mewn perthynas â phob noson pan arhosodd P dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract, dalu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas â’r noson neu’r nosweithiau—

(i)

pan arhosodd P dros nos, a

(ii)

y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad â hi neu â hwy.

(7)

Yn is-adran (4)(a)(ii), ystyr “budd-dal anabledd” yw—

(b)

taliad annibyniaeth personol o dan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) neu Ran 5 o Orchymyn Diwygio Lles (Gogledd Iwerddon) 2015 (O.S. 2015/2006 (G.I. 1));

(c)

lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992;

(d)

lwfans gweini cyson o dan adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992;

(e)

taliad anabledd oedolion o dan Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Pobl o Oedran Gweithio (Yr Alban) 2022 (O.S.A. 2022/54) neu Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Pobl o Oedran Gweithio (Darpariaethau Trosiannol a Diwygio Amrywiol) (Yr Alban) 2022 (O.S.A. 2022/217);

(f)

taliad anabledd plant o dan Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2021 (O.S.A. 2021/174);

(g)

taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan erthygl 24A o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 (O.S. 2011/517);

(h)

lwfans gweini cyson o dan—

(i)

erthygl 14 neu 43 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (O.S. 1983/686);

(ii)

erthygl 8 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (O.S. 2006/606);

(i)

atodiad symudedd o dan—

(i)

erthygl 25A neu 48A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (O.S. 1983/686);

(ii)

erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (O.S. 2006/606).

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion—

(a)

ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y caiff ACC wneud ad-daliad ardoll, neu pryd y mae rhaid iddo wneud ad-daliad ardoll;

(b)

diwygio’r diffiniad o “budd-dal anabledd”.