(1)Mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd—
(a)yn llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla, neu
(b)yn ystafell aml-wely neu’n ystafell arall neu’n ardal arall a ddarperir fel arfer ar y sail y gellir ei rhannu â phobl eraill sy’n preswylio yn yr ystafell aml-wely honno, yn yr ystafell arall honno neu yn yr ardal arall honno o dan gontract gwahanol.
(2)Mae cyfradd uwch yr ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos ym mhob llety ymwelwyr arall.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) neu (2) er mwyn—
(a)ychwanegu math o lety ymwelwyr neu lety o ddisgrifiad penodol;
(b)amrywio disgrifiad o lety ymwelwyr neu o fath o lety ymwelwyr;
(c)dileu math o lety ymwelwyr, neu lety o ddisgrifiad penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)