RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 1CYMHWYSO A GWEITHREDU’R ARDOLL, A CHYFRADDAU’R ARDOLL

Cyfraddau’r ardoll

33Dyfarnu pa gyfradd sy’n gymwys

(1)

Mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd—

(a)

yn llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla, neu

(b)

yn ystafell aml-wely neu’n ystafell arall neu’n ardal arall a ddarperir fel arfer ar y sail y gellir ei rhannu â phobl eraill sy’n preswylio yn yr ystafell aml-wely honno, yn yr ystafell arall honno neu yn yr ardal arall honno o dan gontract gwahanol.

(2)

Mae cyfradd uwch yr ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos ym mhob llety ymwelwyr arall.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) neu (2) er mwyn—

(a)

ychwanegu math o lety ymwelwyr neu lety o ddisgrifiad penodol;

(b)

amrywio disgrifiad o lety ymwelwyr neu o fath o lety ymwelwyr;

(c)

dileu math o lety ymwelwyr, neu lety o ddisgrifiad penodol.