(1)Mae cyfraddau’r ardoll fel a ganlyn—
(a)y gyfradd is yw £0.75, a
(b)y gyfradd uwch yw £1.30,
ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw swm ychwanegol y gellir ei ychwanegu gan brif gyngor (gweler adran 34).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1)(a) neu (b) i osod swm y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ganlyn, neu’r ddwy—
(a)cyfradd is yr ardoll;
(b)cyfradd uwch yr ardoll.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)